Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 1 Hydref 2014

 

Amser y cyfarfod:
13.30

 

 

 

 

Agenda

(220)v2

 

<AI1>

1 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gweld y Cwestiynau

 

</AI1>

<AI2>

2 Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (0 munud)

 

Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.

 

</AI2>

<AI3>

3 Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 26 mewn perthynas â Deddfau'r Cynulliad (5 munud)

 

NDM5583 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:       

 

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes, 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 26 – Deddfau'r Cynulliad' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Medi 2014; a

 

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 26, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.

 

Dogfennau ategol:

 

Adroddiad y Pwyllgor Busnes

 

</AI3>

<AI4>

4 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

NDM5585 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn credu bod angen mwy o eglurder o ran dangosyddion perfformiad allweddol Llywodraeth Cymru ar gyfer ardaloedd menter;

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu diweddariadau bob hanner blwyddyn o ddangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer ardaloedd menter; a

 

3. Yn nodi'r angen i ymestyn lwfansau cyfalaf uwch i ardaloedd menter eraill, fel Eryri.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Ym mhwynt 1, dileu "mwy o eglurder o ran dangosyddion" a rhoi "adolygu eglurder a dealltwriaeth o ddangosyddion" yn ei le

 

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 1:

 

gan gynnwys datgrynhoi cyllid cyhoeddus a phreifat o fewn y DPA buddsoddi,

 

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 2:

 

"ac y dylai'r dangosyddion perfformiad allweddol hynny gynnwys mesurau o gynhyrchiant ym mhob ardal; a"

 

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ym mhwynt 3, dileu "Yn nodi'r" a rhoi "Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i archwilio i'r"

 

[Os derbynnir gwelliant 4, bydd gwelliant 5 yn cael ei ddad-ddethol]

 

Gwelliant 5 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Ym mhwynt 3, dileu popeth ar ôl "Yn nodi" a rhoi yn ei le "y byddai'n ddymunol ymestyn lwfansau cyfalaf uwch i ardaloedd menter eraill hefyd, fel Eryri, ond yn cydnabod y bydd angen, wrth ystyried ardaloedd ychwanegol, nodi'r goblygiadau posibl o ran cost a chael cytundeb Llywodraeth y DU".

 

</AI4>

<AI5>

5 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

NDM5584 Paul Davies (Preseli Sir Benfro):

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn croesawu'r cynnydd a wnaed yn uwchgynhadledd newid hinsawdd y Cenhedloedd Unedig ar gyfer 2014 yn Efrog Newydd;

 

2. Yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau nad yw datgoedwigo yn parhau yng Nghymru a bod ei tharged o 100,000 hectar o goedwigaeth newydd yn cael ei gyrraedd erbyn 2030;

 

3. Yn gresynu at y ffaith nad yw Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn i gyrraedd ei thargedau newid hinsawdd ar gyfer 2020;

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog ystod ehangach o ynni adnewyddadwy, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i, ynni adnewyddadwy morol, treulio anaerobig ac ynni dŵr;

 

5. Yn galw am ddatganoli Tystysgrifau Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy, neu'r hyn sy'n eu dilyn, i Lywodraeth Cymru; a

 

6.  Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio i rwystrau i gysylltu â'r grid ar gyfer prosiectau ynni ar raddfa fach o dan 50MW.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

 

Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn parhau'n ymrwymedig i gyrraedd ei thargedau Newid Hinsawdd ar gyfer 2020;

 

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 5 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

 

Yn llongyfarch Tidal Energy Cyf. ar ddadorchuddio ei ddyfais DeltaStream ar 7 Awst 2014, a wnaed yn bosibl drwy ddefnyddio arian Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod prosiectau o'r fath yn parhau i gael cefnogaeth briodol yn y dyfodol fel y gall Cymru wneud y mwyaf o botensial ynni adnewyddadwy morol i hyrwyddo dull grid cymysg.

 

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 5 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

 

Yn croesawu'r datblygiad diweddar o ddwy ardal profi ac arddangos morol yn nyfroedd Cymru ac yn galw ar LywodraethCymru i ddarparu gwybodaeth reolaidd i'r Cynulliad am ei chynnydd tuag at alluogi datblygiadau technolegol pellach a masnacheiddio dyfeisiadau sy'n defnyddio ynni adnewyddadwy o'r tonnau a'r llanw.

 

Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:

 

Yn credu bod adnoddau naturiol Cymru yn asedau gwerthfawr y gellid eu defnyddio i dorri allyriadau carbon, ac yn galw am ddatganoli'r holl bwerau dros ynni yn llawn, gan gynnwys pob agwedd ar drwyddedu, caniatâd cynllunio ac Ystad y Goron.

 

Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod targed i Gymru fod yn hunangynhaliol o ran trydan adnewyddadwy.

 

Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu rhaglen ôl-osod uchelgeisiol i gynyddu effeithlonrwydd ynni y stoc dai bresennol.

 

</AI5>

<AI6>

6 Dadl Plaid Cymru (60 munud)

NDM5587 Elin Jones AC (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn credu bod tagfeydd ar yr M4 yn ardal Casnewydd yn niweidiol i economi Cymru, a bod angen datrysiad cynaliadwy a fforddiadwy;

 

2. Yn cadarnhau nad yw'r achos wedi'i wneud ar gyfer bwrw ymlaen â'r 'llwybr du';

 

3. Yn credu y bydd neilltuo holl bwerau benthyca newydd Cymru i un prosiect yn cyfyngu ar fuddsoddi mewn mannau eraill; a

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi ystyriaeth lawn i'r 'llwybr glas' am resymau economaidd, amgylcheddol ac ariannol ac er mwyn rheoli traffig.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

 

1. Yn credu bod tagfeydd ar yr M4 yn ardal Casnewydd yn niweidiol i economi Cymru, a bod angen datrysiad cynaliadwy a fforddiadwy;

 

2. Yn cadarnhau bod diffyg achos tryloyw dros fwrw ymlaen â'r 'llwybr du' ac yn galw ar Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i gyhoeddi tystiolaeth glir bod materion amgylcheddol wedi cael eu hystyried yn llawn a bod proses o ddiwydrwydd dyladwy effeithiol wedi ei dilyn;

 

3. Yn credu y bydd neilltuo holl bwerau benthyca newydd Cymru i un prosiect yn cyfyngu ar fuddsoddi mewn mannau eraill ac y bydd, yn ddiamau, yn effeithio ar gynlluniau trafnidiaeth ledled Cymru; a

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro pam y cafodd y 'llwybr glas' ei ddiystyru yn gynnar ac amlinellu pa amodau economaidd, rheoli traffig, amgylcheddol ac ariannol y methodd y llwybr â'u cwrdd.

 

[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2, 3 a 4 yn cael ei ddad-ddethol]

 

Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwyntiau 2, 3 a 4.

 

[Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliannau 3 a 4 yn cael ei ddad-ddethol]

 

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

 

Yn credu y dylai buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus a chamau gweithredu i annog newid moddol oddi wrth ddefnyddio ceir fod yn flaenoriaeth fel rhan o gynllun trafnidiaeth gynaliadwy ac integredig.

 

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Mewnosod ym mhwynt 4 ar ôl 'llwybr glas':

 

Yn ogystal â datrysiadau trafnidiaeth gyhoeddus addas

</AI6>

<AI7>

Cyfnod Pleidleisio

</AI7>

<AI8>

7 Dadl Fer (30 munud)

NDM5586 Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)

 

Cyfranogiad etholwyr a sut y gallwn gael pethau'n iawn mewn perthynas â democratiaeth.

 

Yn dilyn y refferendwm yn yr Alban, sut y gall y Cynulliad Cenedlaethol gynyddu nifer yr etholwyr sy'n cyfranogi, ac a oes angen edrych ar ffyrdd newydd o gael pobl i bleidleisio?

</AI8>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 7 Hydref 2014

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>